Penwythnos Mentro a Dathlu (MAD) 2021
*LLAWN*
Ymunwch â ni am benwythnos o ddigwyddiadau gwirfoddoli i helpu i warchod ein Parc Cenedlaethol.
O reoli mawndiroedd i godi sbwriel o’r llyn a rhagor mwy, dyma’n siawns i ddod atom gilydd i wneud gwahaniaeth dros ddau ddiwrnod ar ôl tymor prysur yr haf. Bydd barbeciw ar y nos Sadwrn i bawb sy’n cymryd rhan, a cherddoriaeth fyw gan Tacla.
Dydd Sadwrn 11 Medi:
- Cynnal a Chadw Llwybrau Troed gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (10yb-4yp)
- Rheoli Mawndiroedd gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (10yb-4yp)
- Casglu Tiwbiau Coed gyda Coed Cadw (10yb-4yp)
- Achub Twyni Tywod gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cumru (10yb-4yp)
- BBQ i’r holl gwifoddolwyr gyda cherddoriaeth fyw gan Tacla (6yp ac ymlaen)
Dydd Sul 12 Medi:
- Codi Sbwriel mewn Canŵs ar Lyn Padarn gyda Snowdonia Watersports (10yb-3yp)
- Tynnu Eithin yn y Carneddau gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (10yb-4yp)
- Casglu Hadau Coed gyda Coed Cadw (10yb-4yp)
- Cynnal a Chadw Llwybrau Troed gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (10yb-4yp)
- Codi Sbwriel ar llwybyr y Watkin, Yr Wyddfa (10yb-4yp)