*WEDI EI OHIRIO* Hel Sbwriel

Hel sbwriel, Conwy

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Saif ffridd gwarchodfa natur Pensychnant ar lethr, ac mae’n lle hyfryd i’w archwilio a’i fwynhau.

Yn anffodus, mae rhai pobl sy’n mwynhau treulio amser yma wedi gadael llawer o sbwriel mewn un man arbennig. Hoffem gael sawl pâr o ddwylo i glirio’r sbwriel a’i gludo i faes parcio gerllaw. Bydd staff y Parc Cenedlaethol yn ei gludo o’r fan honno.

Nepell o’r fan hon mae cryn dipyn o gennin Pedr gwyllt brodorol yn tyfu yn y gwanwyn. Ar y diwrnod gwaith hwn byddwch yn gallu dysgu am ymdrechion gwirfoddolwyr lleol i’w helpu i ffynnu.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg coronafeirws i’n galluogi i roi gwaith awyr agored ymarferol ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, rydym wedi cyfyngu ar y nifer o wirfoddolwyr ar y diwrnod hwn. Cofiwch archebu’n fuan rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch a Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091