Plannu gwrych

Mae stad Pensychnant rhwng Conwy a Phenmaenmawr wedi ei rheoli’n benodol ar gyfer byd natur ers trideg mlynedd. Ers cryn gyfnod, mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri wedi bod yn rhoi cymorth ymarferol ym Mhensychnant.

Cynlluniwyd gwrych newydd i rannu un cae mawr yn ddau. Yn y pen draw, bydd hwn yn darparu cartrefi, cysgod a bwyd i amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt yn ogystal â bod yn ffordd well i anifeiliaid bach groesi’r cae. Byddwch yma ar ddechrau bywyd y gwrych hwn drwy ddod draw i helpu i blannu coed ifanc, gan wybod y bydd eich gwaith o fudd mawr i fyd natur am flynyddoedd lawer i ddod.

Dyma’r cyntaf o ddau ddiwrnod o’r gwaith hwn, gyda’r llall ar ddiwedd yr wythnos. (Gallwch ddod draw am un diwrnod neu’r ddau).

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
 mary@snowdonia-society.org.uk
 01286 685498