Dyma ail gyfle i helpu gyda’r gwaith hwn.
Mae stad Pensychnant rhwng Conwy a Phenmaenmawr wedi ei rheoli’n benodol ar gyfer byd natur ers trideg mlynedd. Am gyfnod maith, mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri wedi bod yn rhoi cymorth ymarferol ym Mhensychnant.
Cynlluniwyd gwrych newydd i rannu un cae mawr yn ddau. Yn y pen draw, bydd hwn yn darparu cartrefi, cysgod a bwyd i amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt yn ogystal â bod yn ffordd well i anifeiliaid bach groesi’r cae. Byddwch yma ar ddechrau bywyd y gwrych hwn drwy ddod draw i helpu i blannu coed ifanc, gan wybod y bydd eich gwaith o fudd mawr i fyd natur.
Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
01286 685498