Gwaith Meithrinfa, Beddgelert
Archebu lle yn hanfodol
Newidiodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol hen adeilad fferm yn feithrinfa goed newydd y llynedd, gyda’r nod o dyfu miloedd o goed o had ar gyfer eu plannu mewn amrywiol leoliadau ar eu tir, gan sicrhau hwb i adfywiad naturiol.
Y llynedd, cyfrannodd gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri at gasglu hadau coed. Dewch i weld sut mae’r hadau hynny wedi datblygu ers hynny ac i helpu gydag unrhyw ddyletswyddau angenrheidiol.
Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
01286 685498