Gwaith Meithrinfa

Gwaith Meithrinfa,Beddgelert

Archebu lle yn hanfodol

(Dyma’r ail o ddau ddiwrnod o helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn eu meithrinfa.)

Newidiodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol hen adeilad fferm yn feithrinfa goed newydd y llynedd, gyda’r nod o dyfu miloedd o goed o had ar gyfer eu plannu mewn amrywiol leoliadau ar eu tir, gan sicrhau cymorth i adfywiad naturiol.

Y llynedd, cyfrannodd gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri at gasglu hadau coed. Dewch i weld sut mae’r hadau hynny wedi datblygu ers hynny ac i helpu gydag unrhyw ddyletswyddau angenrheidiol.

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
01286 685498