Gosod Arwyddbyst, Coed Llennyrch
Archebu lle yn hanfodol
Mae llawer ohonom yn mwynhau cerdded y llwybrau sy’n plethu ar draws Eryri. Ond faint ohonom sy’n cymryd yr amser i edmygu’r gwaith sydd wedi mynd i mewn i’r arwyddion hyn? Arwyddion sydd yn gwneud llawer o’r llwybrau hyn mor hygyrch.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi ymuno â Choed Cadw a Kehoe Countryside i gynhyrchu arwyddion i nodi’r daith trwy Goed Felinrhyd, coedwig Glaw Celtaidd sydd llawn chwedl.
Dewch draw a chael gwerthfawrogiad newydd ar gyfer llwybrau sydd wedi’u harwyddo!
Cysyllwtch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498