*WEDI EI GOHIRIO* Gofal Coed

Gofal Coed, Ysbyty Ifan

Archebu lle yn hanfodol

Mae angen ychydig o ofal ar goed wedi eu plannu i sicrhau eu ffyniant a’u llwyddiant. Byddwn yn ymuno ag un o wardeniaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gyflawni gwaith cynnal a chadw ar y coed a blannwyd beth amser yn ôl, boed hynny i glirio’r llystyfiant o’u cwmpas er mwyn sicrhau golau a llai o gystadleuaeth neu wrth deneuo neu ail-osod y coed er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o ofod i lwyddo. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn helpu i sicrhau y bydd y coed yno am ddegawdau lawer i ddod, neu fwy, ac yn darparu cynefin a lloches ar gyfer llawer o rywogaethau o fywyd gwyllt.

Mae stad Ysbyty Ifan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn ardal gyda llawer o ffermydd bychain ac fe saif mewn rhan fwy distaw ac anhysbys o Eryri. Mae’n werth galw heibio rhywle newydd ac yn fuddiol rhoi help llaw i fyd natur bob amser!

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07901 086850