Glanhau Traeth Prydeinig Fawr, Dinas Dinlle

Glanhau Traeth Prydeinig Fawr, Dinas Dinlle

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Mae glanhau traethau yn digwydd ledled Prydain ym mis Medi i glirio sbwriel ar ôl yr haf ac i gasglu gwybodaeth i gyfrannu at gofnodion sbwriel morol ledled y DU. Yn flaenorol, mae’r Gymdeithas Gadwraeth Morol wedi defnyddio data o’r fath i sicrhau newidiadau gan gynnwys y tâl bagiau plastig, gwahardd micro-blastigau mewn cynhyrchion gofal personol, gwell labelu ar gadachau-gwlyb a chefnogaeth i dreth ar blastig un-defnydd.

Mae llawer o sbwriel yn dod i ben ei daith yn y môr (lle mae’n niweidio bywyd morol) o ardaloedd mewndirol wrth i’r gwynt yn ei chwythu i’r nentydd. Felly, gallwch chi gymryd rhan hyd yn oed os nad ydych chi’n byw wrth draeth trwy ymweld â www.mcsuk.org i gael gwybodaeth am eu cynllun ‘Source to Sea Litter Quest’.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws i’n galluogi i wneud gwaith awyr agored ymarferol mor ddiogel â phosibl. Os hoffech fwy o wybodaeth am y rhain, cofiwch gysylltu. I gadw pellter cymdeithasol bob amser, cyfyngir ar y nifer o wirfoddolwyr ar gyfer pob diwrnod gwaith.  Archebwch yn gynnar rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091