Sgwrs am ddim: Jac y Neidiwr

Sgwrs am ddimJac y Neidiwr

19:30. Neuadd y Gymuned, Henryd

Ydych chi wedi sylwi ar y planhigyn pinc yma ar lan nant yn rhywle lleol?

Planhigyn ymledol anfrodorol yw jac-y-neidiwr sy’n lledaenu ar hyd afonydd a nentydd. Mae’n tyfu’n gyflym ac yn mygu planhigion eraill yn sydyn iawn. Mae hefyd yn gyfrifol am erydiad glannau afon.

Mae Cyfeillion y Ddaear Conwy a grwpiau eraill wedi bod yn brwydro i glirio’r planhigyn pinc ymwthiol yma o afonydd y Gyffin, y Ro a Chonwy a’u his-afonydd.

Dewch i ddysgu pam fod jac-y-neidiwr yn broblem a sut allwch chi helpu, wrth fwynhau paned a chacen!