Cynnal a chadw llwybr

Cynnal a chadw llwybr, Mawddach

Archebu lle yn hanfodol

Ymunwch â ni wrth i ni ddychwelyd i Lwybr y Fawddach, llwybr trawiadol 15km syn ymestyn o Ddolgellau i Abermaw ar hyd aber Afon Mawddach. Dyma un o ardaloedd harddaf Eryri, ac mae’n cyfuno aber prydferth â hanes cyfoethog a digonedd o adar aberol diddorol. Byddwn yn helpu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i sicrhau fod y llwybr troed hwn yn hygyrch i bawb. Mae’n llwybr aml-ddefnyddwyr, felly gall ceubyllau, draeniau wedi’u difrodi a changhennau coed yn gordyfu achosi nifer o anawsterau y byddwn yn ceisio eu datrys

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498