Cynnal a Chadw Llwybr

Cynnal a Chadw Llwybr Y Wyddfa, Llwybr Llanberis

Archebu lle yn hanfodol,

Mae angen cynnal a chadw yn gyson ar lwybrau’r Wyddfa gan fod dros 500,000 o bobl y flwyddyn yn cerdded arnynt! Gyda mwy o bobl yn mwynhau’r mynydd hyfryd hwn nag erioed dydi’r angen am gynnal a chadw ar y llwybrau erioed wedi bod yn fwy.
Os ydych chi’n hoff o heicio mynydd a defnyddio’r llwybrau troed hyn eich hun, yna dyma’r diwrnod gwirfoddoli i chi.

Cysylltwcg ag Dan am fwy o wybodaeth:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498