Ffensio A Codi Cloddiau

Ffensio A Codi Cloddiau

Archebu lle yn hanfodol, Esgidiau pen dur yn hanfodol

Yma yng Nghymdeithas Eryri rydym wrth ein bodd yn helpu pobl sydd â byd natur wrth wraidd yr hyn maen nhw’n ei wneud. Mae Canolfan Gadwraeth Pensychnant yn rhannu amryw o’n gwerthoedd allweddol ac mae cadwraeth wrth wraidd pob dim sy’n digwydd yno. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae warden Pensychnant hefyd wedi cynnal y fferm ac oherwydd hyn mae ganddo ddyletswyddau newydd. Dydy cynnal fferm a chanolfan gadwraeth ddim yn hawdd felly byddwn yn mynd draw i Bensychnant i gynnig help llaw. Ymunwch â ni am y dydd i’n helpu i gynnal ffensys Pensychnant. Yn ffensiwr medrus neu’n amhrofiadol, mae croeso i bawb. Cewch gyfle hefyd i helpu i godi hen adran o glawdd cerrig. Os hoffech ymuno â ni yn y gweithgaredd hwn dylech wisgo esgidiau cryfion efo blaenau dur (mae detholiad bach ar gael os hoffech eu benthyg; cysylltwch ag Owain os mai dyna eich dymuniad).

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498