Ffensio

Ffensio

Archebu lle yn hanfodol,

Yma yng Nghymdeithas Eryri, rydym ni wrth ein bodd yn helpu’r sawl y mae natur yn elfen greiddiol o’u gwaith. Mae Canolfan Cadwraeth Pensychnant yn rhannu nifer o’n gwerthoedd allweddol, a chaiff ei rhedeg mewn modd sy’n ystyriol o gadwraeth bob amser. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r warden ym Mhensychnant wedi dod yn gyfrifol am y fferm, ac yn sgil hynny, nifer o ddyletswyddau newydd sbon. Nid yw rhedeg fferm a chanolfan gadwraeth eich hun yn waith hawdd, felly byddwn yn mynd i Bensychnant i gynnig help llaw er budd achos da. Ymunwch â ni i gyfranogi yng ngwaith y diwrnod wrth i ni helpu i gynnal y ffensys ym Mhensychnant. Pa un ai a oes gennych chi brofiad helaeth o godi ffensys neu os ydych chi’n ddechreuwr, mae croeso i bawb.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498