Walio cerrig sychion yng Ngwarchodfa Natur Pensychnant
Conwy, Dydd Llun 12/2 a Dydd Mawrth 13/2, 10:00 – 16:00
Ymunwch â ni i ddysgu sgil traddodiadol codi waliau sychion dros y digwyddiad deuddydd yma. Mae waliau cerrig sychion yn rhan annatod o’n hanes amgylcheddol, gan gynnig hafan i fywyd gwyllt a chen yn ogystal ag anifeiliaid sy’n cysgodi rhag y tywydd. Bydd Julian Thompson o Ganolfan Gadwraeth Pensychnant yn ein harwain wrth i ni ddatgymalu rhan o wal gerrig, yna gosod sylfeini newydd, ac yn olaf adeiladu’r wal hyd at ei huchder gan ddefnyddio technegau codi waliau sychion traddodiadol.
Bydd hwn yn ddigwyddiad ymarferol a byddwn yn mynd ati i symud a gosod cerrig o fawr i fach.
Lefel gweithgaredd – heriol.
Am ddim – Blaendal o £10 i’w ad-dalu yn dilyn presenoldeb ar y ddau ddiwrnod.
Archebwch YMA
Cysylltwch â jen@snowdonia-society.org.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Gyda diolch i Raglen Cronfa Grant Cymunedol y Grid Cenedlaethol.