Diwrnod rheoli glaswelltir

eithinog

Diwrnod rheoli glaswelltir

Archebu lle yn hanfodol

Helwch i ddangos eich cefnogaeth i Gymdeithas Eryri ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru (YBGGC) trwy gynorthwyo â’r gwaith oddi allan i ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Rydym wedi cael gwahoddiad gan YBGGC i helpu i gynnal a chadw gwarchodfa glaswelltir bwysig ger cyrion Bangor. “Mae Eithinog yn hafan sy’n cynnwys dolydd â chyfoeth o berlysiau, gwrychoedd aeddfed, tir prysgwydd eithin, coedlannau, porfeydd brwyn, helyg a ffeniau gwern. Mae’r caeau yn cynnwys cyfoeth o fywyd gwyllt ac maent o bwys yn genedlaethol oherwydd eu ffyngau glaswelltir” Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth ychydig yn nes at adref, dyma eich cyfle i weld yn union sut rydym ni ac YBGGC yn cydweithio er lles Gogledd Cymru. Bydd tasgau’r diwrnod yn cynnwys rheoli glaswelltir a chlirio prysgwydd.  

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498