Ymunwch â ni i gyfranogi mewn diwrnod o waith gwirfoddol yn y goedwig law Geltaidd yng Nghoed Felinrhyd. Prynwyd y coetir hwn yn ddiweddar gan yr Ymddiriedolaeth Coedlannau, a byddwn yn cydweithio â hwy i atal rhywogaethau ymledol estron (rhododendron a chegid) rhag ymledu. Nid gwaith fydd y cyfan! Byddwn yn sicrhau y cawn ni ddigon o amser i archwilio’r safle godidog hwn sy’n teimlo fel coedwig law a ble ceir coed derw ceinciog â mwsoglau a rhedyn arnynt.
Bydd cludiant am ddim o Fangor ar gael.
tamsin@snowdonia-society.org.uk
01286 685498