Diwrnod gwaith Ty Hyll (YN LLAWN)

Diwrnod gwaith Ty Hyll, Capel Curig

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Mae Tŷ Hyll yn arbennig i Gymdeithas Eryri gan mai ni sy’n berchen arno ac roedd ar un pryd yn bencadlys i ni. Ail-grëwyd yr ardd yn gariadus gan wirfoddolwyr ac fe’i cynlluniwyd i ddenu bywyd gwyllt yn cynnwys gwenyn. Mae’n toddi’n naturiol i’r goedlan bedair-acer o’i chwmpas. Mae ei gynnal a’i gadw wedi dibynnu’n fawr ar grwpiau gwirfoddol. Hwn fydd y diwrnod gwaith gwirfoddol cyntaf yn Nh hll ers misoedd lawer, yn rhannol oherwydd y coronafirws.

Ymunwch â ni i gasglu llwydni dail, tomwelltu’r gwelyau a sicrhau bod llwybrau’r coetir yn glir gyda’r ddraeniau mewn cyflwr dda. Efallai y bydd gorchwylion cynnal a chadw eraill megis symud a llifio boncyffion ar gyfer coed tân a thrin y siediau.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg coronafeirws i’n galluogi i roi gwaith awyr agored ymarferol ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, rydym wedi cyfyngu ar y nifer o wirfoddolwyr ar y diwrnod hwn. Cofiwch archebu’n fuan rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch a Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091