Gwirfoddoli Coetir: Tŷ Hyll , Betws y Coed
Archebu lle yn hanfodol; lleoedd cyfyngedig
Ymunwch â ni yng ngardd a choedlan Tŷ Hyll. Mae’n anrhydedd i Gymdeithas Eryri gael gofalu am y man tawel hwn, sy’n hafan i lawer math o fywyd gwyllt.
Yn ystod y diwrnod byddwn yn tacluso o gwmpas y tŷ, yr ardd a’r goedlan. Bydd amrywiaeth o orchwylion i’w cwblhau, yn cynnwys clirio dail crin oddi ar lwybrau cyn iddyn nhw bydru, clirio draeniau, garddio, neu ail-beintio arwyddion (os bydd yn sych).
Yn ogystal â helpu i warchod y trysor hanesyddol yma yn Eryri cewch gyfle hefyd i ddod i adnabod ffrindiau newydd.
Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg ar gyfer coronafeirws i’n galluogi i roi gwaith ymarferol awyr agored ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cynnal pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, cyfyngir yn arw ar y nifer o wirfoddolwyr ar bob diwrnod gwaith. Cofiwch archebu’n gynnar rhag i chi gael eich siomi.
Cysylltwch a Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk</em