Difa jac-y-neidiwr
Archebu lle yn hanfodol,
Dewch i’n helpu i warchod bywyd gwyllt gwych glannau’r afon Glaslyn drwy glirio’r jac-y-neidiwr ymledol, planhigyn ymosodol ac anfrodorol, yn Hafod y Llyn. Mae ei dyfiant trwchus yn mygu planhigion eraill ac yn difa cymunedau o blanhigion brodorol, a phan fydd yn marw’n ôl yn ystod y gaeaf mae’n gadael glannau moel ar lannau’r afon sy’n fwy tebygol o ddioddef erydiad. Mae jac-y-neidiwr hefyd yn cynhyrchu cryn dipyn o neithdar sy’n denu peillwyr sydd fel arfer yn galw heibio planhigion brodorol.
Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498498