Cenedl Fach, Tirluniau Mawr: Cynhadledd 2022
12-14 Hydref 2022
Plas y Brenin | Canolfan Awyr Agored Cenedlaethol
Ymunwch â Chymdeithas Eryri wrth i ni gynnal cynhadledd flynyddol cymdeithasau’r Parciau Cenedlaethol yr hydref hwn yng Nghanolfan Awyr Agored Plas y Brenin wrth wraidd tirlun mynyddig trawiadol Eryri.
Mae tirluniau dynodedig Cymreig yn gweithredu o fewn fframwaith ddiwylliannol, deddfwriaethol a pholisi neilltuol, a gynhelir gan ymrwymiad ein llywodraeth i les cenedlaethau’r dyfodol.
Eleni, felly, rydym yn croesawu cynadleddwyr o deulu ehangach o gyrff o’r un anian yng Nghymru, yn ogystal â chymdeithasau parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd wedi ymrwymo i greu Parc Cenedlaethol cyntaf Cymru ers datganoli, gwarchod pum ardal bresennol Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac ymgyrchu am dirlun dynodedig newydd ym mynyddoedd Cambria yng nghanolbarth Cymru.
Bydd yno siaradwyr ar faterion cyfredol a dadleuol, gweithdai rhyngweithiol, cyfleoedd lu i rwydweithio, astudiaethau achos ysbrydoledig a theithiau maes.
Byddwn yn dathlu hanfod Eryri – ardal lle nad yw’n bosibl gwahanu’r iaith a thirlun.
Drwy gydol y gynhadledd hoffem rannu ffordd o feddwl ac ymarfer:
- Sut all tirluniau dynodedig wasanaethu holl aelodau’r gymdeithas a chyfrannu at flaenoriaethau amgylcheddol brys?
- Beth ddylai newid a sut, ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol?
- Sut allwn ni gydweithio’n well, drwy arweiniad a phartneriaethau effeithiol