Taith: Yn ôl troed Darwin gyda Rhys Mwyn
10yb-4yp, Mynyddoedd y Rhinogydd
Ymunwch â’r rocar, yr hynafiaethwr a’r awdur Rhys Mwyn am daith fynyddig a ysbrydolir gan daith maes ddaearegol Charles Darwin am wythnos yn Eryri dros 150 mlynedd yn ôl. Bydd y daith heriol hon yn cynnwys dringo Rhinog Fawr (720m).
Rhaid archebu lle:
claire@snowdonia-society.org.uk | 01286 685498
Rhowch yn hael os gwelwch yn dda
Yn hytrach na phenodi pris am y digwyddiad hwn, rydym yn gwahodd cyfraniadau. Cofiwch roi’n hael; bydd eich arian yn mynd tuag at waith Cymdeithas Eryri.