Cynnal Llwybrau

Cynnal Llwybrau, Cwm Idwal

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Mae Cwm Idwal, gwarchodfa natur gyntaf Cymru, yn fan poblogaidd i gerdded. Mae ei leoliad a’r golygfeydd o’i gwmpas yn wych.

Er yn lwybr lefel-isel, mae Cwm Idwal, gan ei fod yn y mynyddoedd, yn cael tywydd drwg gydag ambell i gwymp creigiau. Mae hynny’n golygu bod gwaith cynnal a chadw’n hanfodol, er mwyn clirio unrhyw ffosydd sydd wedi cau â cherrig, yn ogystal â sicrhau bod draeniad da i’r llwybr.

Mae gennym drefn weithio glir ac asesiadau risg ar gyfer coronafirws i’n galluogi i gyflawni gwaith awyr agored ymarferol mor ddiogel â phosibl. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn bosib bob amser, cyfyngir yn llym ar y nifer o wirfoddolwyr ar gyfer pob diwrnod gwaith. Cofiwch archebu’n fuan i osgoi cael eich siomi.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk