Cynnal LLwybrau

Cynnal Llwybrau, Llwybr PyG (Y Wyddfa)

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Mae llwybr PyG yn un o’r mwyaf prysur o ran ymwelwyr i fyny un o fynyddoedd mwyaf poblogaidd y byd. Mae cannoedd o filoedd o bobl yn cerdded y llwybr hwn bob blwyddyn.

Mae draeniau a ffosydd llwybrau y Wyddfa yn llenwi’n rheolaidd gyda cherrig bychain a gro pan fo glaw trwm yn chwyddo’r nentydd – mae hi’n anodd osgoi hyn ar fynydd serth. Ymunwch â ni i weithio’n ymarferol a chael hwyl a mwynhau’r golygfeydd o fynydd uchaf Cymru. Os ydych chi’n hoffi cerdded mynyddoedd ac yn defnyddio’r llwybrau yma eich hun, yna dyma’r diwrnod o wirfoddoli i chi.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws i’n galluogi i wneud gwaith awyr agored ymarferol mor ddiogel â phosibl. Os hoffech fwy o wybodaeth am y rhain, cofiwch gysylltu. I gadw pellter cymdeithasol bob amser, cyfyngir ar y nifer o wirfoddolwyr ar gyfer pob diwrnod gwaith. Archebwch yn gynnar rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498