Cynnal Llwybrau

Cynnal Llwybrau, Y Wyddfa

Archebu lle yn hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Yn dilyn ein cynnal llwybrau ar lwybr PyG y Wyddfa ar 23 Medi, mae’r diwrnod yma’n gyfle arall i gynnal llwybrau’r Wyddfa a sicrhau bod dŵr glaw yn cael ei droi o’r llwybrau er mwyn cyfyngu ar erydiad. Bydd y llwybr a’r safle gwaith yn dibynnu ar y gwaith a wnaed hyd yma ar ddyddiau blaenorol.

Mae draeniau a ffosydd llwybrau y Wyddfa yn llenwi’n rheolaidd gyda cherrig bychain a gro pan fo glaw trwm yn chwyddo’r nentydd – mae hi’n anodd osgoi hyn ar fynydd serth. Ymunwch â ni i weithio’n ymarferol a chael hwyl a mwynhau’r golygfeydd o fynydd uchaf Cymru. Os ydych chi’n hoffi cerdded mynyddoedd ac yn defnyddio’r llwybrau yma eich hun, yna dyma’r diwrnod o wirfoddoli i chi.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws i’n galluogi i wneud gwaith awyr agored ymarferol mor ddiogel â phosibl. Os hoffech fwy o wybodaeth am y rhain, cofiwch gysylltu. I gadw pellter cymdeithasol bob amser, cyfyngir ar y nifer o wirfoddolwyr ar gyfer pob diwrnod gwaith. Archebwch yn gynnar rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498