*WEDI EI GOHIRIO* Cynnal Llwybr Llechi

Cynnal Llwybr Llechi, Betws y Coed

Archebu lle yn hanfodol

Mae Cymdeithas Eryri wedi derbyn cyfrifoldeb am arolygu a chynnal adrannau penodol o’r Llwybr Llechi gwych sy’n 83 milltir o hyd. Fe’i agorwyd yn 2017 ac mae’n cysylltu hen lwybrau a ddefnyddid ar un pryd gan weithwyr y chwareli yn ystod y diwydiant llechi. Byddwn yn teithio ar hyd rhan glan afon hyfryd tuag at Betws-y-coed, gan ddelio efo unrhyw lystyfiant sydd wedi gordyfu neu rannau mwdlyd ar hyd y llwybr.

Bydd eich help yn sicrhau parhad yr holl waith a wnaed i sefydlu’r Llwybr hwn, fel bod llawer mwy o bobl yn gallu parhau i fwynhau’r daith a threftadaeth y gorffennol.

O ganlyniad i ymlediad (Covid-19), y coronafeirws, gobeithiwn y byddwch yn deall y bydd o bosib yn rhaid canslo neu newid trefniadau ar fyr rybudd. Bydd ein staff yn gwneud pob ymdrech i adael i bawb sydd wedi archebu lle ar ddigwyddiad wybod. Cofiwch wirio beth ydy statws y digwyddiad ymlaen llaw drwy ffonio neu ebostio

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07901 086850