Cynnal Gwarchodfa

coed crafnant

Cynnal Gwarchodfa, Coed Crafnant

Archebu lle yn hanfodol,

“Enghraifft hyfryd o goedlan hynafol, yn llawn o fryoffytau Atlantaidd prin. Mae ei chasgliad o fwsoglau, llysiau’r afu a rhedynau yn tyfu mewn dwy goedlan wahanol gyda hanes gwahanol: Coed Crafnant a Choed Dolbebin. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y Rhinog o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae canopi’r coed derw brodorol wedi darparu amgylchedd cynnes a llaith ers o leiaf 6,000 mlynedd.”

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Ymunwch â ni yn y goedlan hynafol hardd hon wrth i ni helpu Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i warchod y safle. Yn ymuno â ni am y diwrnod bydd Rob Booth, swyddog y warchodfa, a fydd ar gael i ateb unrhyw gwestiwn fydd gennych chi am y warchodfa a sut mae hi’n cael ei rheoli.

Contact Dan to register:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498