Cynnal a Chadw Llwybrau’r Goedlan

parc mawr woodland

Cynnal a Chadw Llwybrau’r Goedlan

Archebu lle yn hanfodol

“Coedlan hynafol yw Parc Mawr sy’n cynnwys coed hynafol trawiadol. Dewch draw yn y gwanwyn am arddangosfa wych o glychau glas a blodau eraill y tymor, neu ar unrhyw adeg o’r flwyddyn i fwynhau golygfeydd gwych dros ddyffryn Conwy.” Coed Cadw. Mae angen gofal ar y warchodfa 84 erw hon er mwyn cynnal ei llwybrau ar gyfer cerddwyr, a bydd ein cymorth yn mynd yn bell. Dewch i ddysgu technegau cynnal llwybrau, i fwynhau Parc Mawr ac i ddarganfod safle y byddwch yn siŵr o fod eisiau dychwelyd iddo.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498