Cynnal a Chadw Llwybrau Troed

Cynnal a Chadw Llwybrau Troed

Archebu lle yn hanfodol

Mae Lôn Gwyrfai yn un o lwybrau amlddefnyddwyr gorau iseldir Eryri. Mae’n hawdd cael at y llwybr o bentrefi Rhyd Ddu a Beddgelert, sy’n golygu ei fod yn boblogaidd â gwahanol grwpiau o bobl. Mae’r llwybr 7km hwn hefyd yn cynnig golygfeydd gwych o’r bryniau o amgylch yr Wyddfa  a Moel Hebog. Mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn cynnal a chadw’r llwybr hwn ers 5 mlynedd, ac mae’r gwaith rheolaidd hwn yn hanfodol er mwyn cynnal cyflwr gwych y llwybr. Dewch i roi help llaw i ni a mwynhewch daith gerdded ddymunol ar yr un pryd.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498