Cynnal a chadw llwybrau

Cynnal a chadw llwybrau

Archebu lle yn hanfodol,

Ymunwch â ni am ddiwrnod o gynnal un o lwybrau mwyaf poblogaidd Eryri. Mae’r llwybr i fyny’r Garn yn gyfarwydd i gerddwyr mynydd brwd gan ei fod yn sicrhau rhai o olygfeydd gorau Eryri. Prif orchwyl y dydd fydd datgymalu’r carnau nad oes eu hangen ar hyd llethrau uchaf Y Garn. Mae carnau neu bentyrrau o gerrig yn nodwyr llwybrau defnyddiol ac mae ganddyn nhw gysylltiad cryf gyda hanes cerdded ac amaethu yn yr ucheldir. Fodd bynnag, mae amryw o garnau ychwanegol wedi eu creu dros y blynyddoedd. Yn aml, mae’r carnau yma nad oes eu hangen wedi eu ffurfio o rannau o’r llwybr ac maen nhw’n gallu tyfu’n ddigon mawr i gau’r llwybr yn llwyr. Fe all hyn greu erydiad o’r llwybr yn ogystal ag erydiad y cynefinoedd yr ydym am eu gwarchod ar naill ochr y llwybrau. Ein nod yw chwalu’r carnau yma a dychwelyd y cerrig i’r llwybr gwreiddiol, gan leihau erydiad ac agor y llwybrau.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498