Cynnal a Chadw Llwybrau

Cynnal a Chadw Llwybrau

Booking essential,

Ar gyfer y diwrnod hwn byddwn yn mynd i fyny Pen yr Ole Wen mynydd mwyaf deheuol y Carneddau. Dyma gyfle i fwynhau golygfeydd syfrdanol yr ardal a gwneud gwaith atgyweirio sydd ei wir angen.

Mae rhan o’n cyfres ‘Pitcho Mewn’ yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfle i ddysgu mwy am grefft atgyweirio llwybrau troed.

Os ydych chi’n hoffi cerdded mynyddoedd yn Eryri ac eisiau helpu i ofalu am y llwybrau hyn yn ogystal â chynefinoedd yr ucheldir eu hunain, yna dyma’r diwrnodau gwirfoddoli i chi.

Mae’r dyddiau hyn yn digwydd ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis rhwng Ebrill a Hydref.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498