Cynnal a Chadw Llwybr Troed, Yr Wyddfa

Cynnal a Chadw Llwybr Troed, Yr Wyddfa

Archebu lle yn hanfodol, Nifer cyfyngedig o lefydd

Dewch i’n helpu i gynnal rhai o lwybrau mwyaf poblogaidd y wlad. Mae angen gwaith cynnal a chadw cyson ar lwybrau’r Wyddfa oherwydd bod 500,000 o bobl yn eu cerdded bob blwyddyn. Os ydych chi’n hoffi cerdded mynyddoedd ac yn defnyddio’r llwybrau yma eich hun, yna dyma’r diwrnod o wirfoddoli i chi. Cofiwch y byddwn yn cerdded drwy gydol y dydd.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498