Cynnal a Chadw Llwybr a Chasglu Sbwriel

Lon Gwyrfai

Cynnal a Chadw Llwybr a Chasglu Sbwriel

Archebu lle yn hanfodol,

Fel rhan o gytundeb rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chymdeithas Eryri, byddwn yn gwneud rhannau cyntaf y gwaith ar y llwybr amlbwrpas hwn sydd bellach wedi cael ei gysylltu â llwybrau eraill; bellach, gall beicwyr a cherddwyr ei ddefnyddio i fynd o Ryd Ddu i Feddgelert ar hyd dyffryn hardd Rhyd Ddu. Diben gwaith y diwrnod yw clirio/agor y traeniau a’r ceuffosydd, lle mae angen gwneud hynny, ar hyd darn dwy filltir (fwy neu lai) o Lon Gwyrfai.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498