*WEDI EI GOHIRIO* Cynnal Llwybrau

Cynnal Llwybrau, Meirionydd

Archebu lle yn hanfodol

Saif Dolmelynllyn, ger Ganllwyd ym Meirionnydd, mewn ardal sy’n fwy distaw na gogledd Eryri, sy’n fwy poblogaidd. Ar un pryd roedd diwydiant copr ar waith yma.

Byddwn yn cynnig cymorth i wardeniaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gwarchod cryn dipyn o dir ym Meirionnydd ac yn gweithio gyda ffermwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng amaethyddiaeth a chadwraeth natur. Mae’r llwybr hwn yn arwain at lethrau bryn a dylem gael golygfeydd hyfryd o harddwch distaw Dolmelynllyn. Bydd hwn yn gyfle arbennig i ddatblygu medrau cynnal a chadw llwybrau (torri prysgwydd, sicrhau draeniad da, ayyb).

O ganlyniad i ymlediad (Covid-19), y coronafeirws, gobeithiwn y byddwch yn deall y bydd o bosib yn rhaid canslo neu newid trefniadau ar fyr rybudd. Bydd ein staff yn gwneud pob ymdrech i adael i bawb sydd wedi archebu lle ar ddigwyddiad wybod. Cofiwch wirio beth ydy statws y digwyddiad ymlaen llaw drwy ffonio neu ebostio

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07901 086850