*WEDI EI GOHIRIO* Cynnal a Chadw Llwybr

Cynnal a Chadw Llwybr, Llwybr Pyg (Yr Wyddfa)

Cludiant am ddim o Gaernarfon a Bangor, Archebu lle yn hanfodol

Dewch i’n helpu ni i gynnal rhai o’r llwybrau troed mwyaf poblogaidd yn y wlad fel rydym yn dychwelyd i’r mynyddoedd nawr bod y gaeaf tu ôl i ni.

Mae’r Wyddfa yn cael ei hystyried yn un o’r mynydd prysuraf yn y byd, os nad y prysuraf gydag amcangyfrif o 750,000 yn ymweld â’r mynydd mewn blwyddyn. Mae’r holl draed hyn yn gadael ei effaith ar lwybrau’r mynydd. Ymunwch â ni yn y tymor tawel wrth i ni wneud rhywfaint o waith cynnal a chadw sydd ei wir angen ar lwybr Pyg un o’r llwybrau fwyaf poblogaidd.

Os ydych chi’n caru heicio mynydd ac yn defnyddio’r llwybrau troed hyn eich hun, yna dyma’r diwrnod gwirfoddoli i chi.

Fel rhan or diwrnod mae cyfle i gymrhyd rhan yn ein uned achrededig llwybrau.

Mae’r uned hon yn eich galluogi i ddysgu ac arddangos eich medrau cynnal llwybrau troed – ac yn ychwanegiad defnyddiol i’ch CV. Mae’r uned hon yn ddelfrydol ar gyfer y sawl sy’n dymuno cael ffurf mwy ffurfiol o arddangos eu profiad ymarferol.

O ganlyniad i ymlediad (Covid-19), y coronafeirws, gobeithiwn y byddwch yn deall y bydd o bosib yn rhaid canslo neu newid trefniadau ar fyr rybudd. Bydd ein staff yn gwneud pob ymdrech i adael i bawb sydd wedi archebu lle ar ddigwyddiad wybod. Cofiwch wirio beth ydy statws y digwyddiad ymlaen llaw drwy ffonio neu ebostio

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498