Cynnal a Chadw Llwybr

Cynnal a Chadw Llwybr

Archebu lle yn hanfodol,

Mae Dyffryn Ogwen yn cynnwys rhai o lwybrau troed mwyaf poblogaidd Cymru, naill ai i gerdded i fyny Tryfan, o amgylch Cwm Idwal neu ar hyd rhan Ogwen Llwybr Llechi Eryri. Byddwn yn cydweithio â thîm llwybrau troed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ystod y diwrnod i roi help llaw iddynt i gynnal llwybrau troed yr ydym ni oll wedi’u defnyddio a’u mwynhau rywbryd yn ystod ein bywyd. Dewch i anadlu awyr iach y mynyddoedd a cholli’r pwysi ychwanegol y nadolig wrth i ni symud cerrig, clirio draeni, cyfeirio’r llwybr troed a dymchwel carneddau diangen.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498