Crib Goch ac esgair Cwm Glas gyda’r arweinydd mynydd Rob Collister

Crib Goch ac esgair Cwm Glas gyda’r arweinydd mynydd Rob Collister

10:00-18:00, Yr Wyddfa

Bydd y sgrambl yma’n dringo esgair Cwm Glas i gopa Garnedd Ugain, yn teithio o’r gorllewin tua’r dwyrain dros Grib y Ddysgl a Chrib Goch cyn mynd i lawr crib ogleddol Crib Goch yn ôl i Gwm Glas. Dyma gylch gyffrous gyda golygfeydd trawiadol sy’n addas ar gyfer cerddwyr heini a hyderus nad ydyn nhw’n ofni uchder. Dewch ag arian parod neu docyn bws ar gyfer y bws Sherpa o Nant Peris.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Am ddim i aelodau Cymdeithas Eryri neu £10 i’r sawl nad ydyn nhw’n aelodau. E-bostiwch claire@snowdonia-society.org.uk i archebu eich lle.