Cloddiau Cerrig Sych
Archebu lle yn hanfodol, Esgidiau cryfion efo blaenau dur yn hanfodol
Dewch i ddysgu sut i godi cloddiau cerrig sych gydag Wardeniaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ogwen. Rydych eisoes wedi gweld y cloddiau cerrig sych ledled Eryri, gan eu bod yn rhan annatod o dreftadaeth ein parc cenedlaethol. Ymunwch â ni am y diwrnod i ddysgu sut i godi’r cloddiau yma eich hun. Croeso i seiri meini profiadol ac i ddechreuwyr. Os hoffech ymuno â ni yn y gweithgaredd hwn dylech wisgo esgidiau cryfion efo blaenau dur (mae detholiad bach ar gael os hoffech eu benthyg; cysylltwch ag Owain os mai dyna eich dymuniad).
Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498498