Clirio Rhododendron

Clirio Rhododendron

Archebu lle yn hanfodol,

Rhwng coetir derw uwchdirol Coed Allt Soar a Choedwig Law Geltaidd Coed Felinrhyd yn y bryniau uwchlaw aber Afon Dwyryd, mae safle sydd wedi’i feddiannu gan Rododendron Ponticum. . Ymunwch â ni i gyfranogi yng ngwaith y diwrnod wrth i ni fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol estron gan gydweithredu ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Bydd ein gwaith yn cynorthwyo i amddiffyn y coetiroedd rhagorol hyn rhag cael eu meddiannu’n llwyr. Chwiliwch am lif bwa a dewch i daclo’r broblem hon.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498