Clirio Rhododendron

Clirio Rhododendron

Archebu lle yn hanfodol,

Cyfranogwch, gafaelwch mewn llif fwa a dewch i frwydro’r bygythiad blodeuog hwn. Dros y 150 o flynyddoedd diwethaf, mae Nant Gwynant wedi cael ei gorchuddio’n raddol gan Rododendron Ponticum, planhigyn sydd ddim yn rhywogaeth gynhenid. Rydym ni eisoes wedi cwblhau’r broses o chwistrellu’r coesynnau, a bellach, gofynnir i ni glirio’r planhigion ystyfnig sydd wedi goroesi a chlirio’r pren marw er mwyn cyflymu cyfradd adfer y tir. Bydd ein gwaith yn gymorth mawr i adfer cyflwr naturiol y dyffryn hardd hwn. I ddathlu tymor yr Ŵyl, bydd gennym ni ddigonedd o fins-peis i bawb.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498