Clirio Prysgwydd

Clirio Prysgwydd, Morfa Bychan

Archebu lle yn hanfodol

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yw perchnogion gwarchodfa Morfa Bychan (Greenacres), a saif rhwng Cricieth a Phorthmadog yn Eifionydd. Mae’r warchodfa’n cynnwys system wych o dwyni sy’n gartref i sawl rhywogaeth arbenigol fel celyn y môr, rhosyn bwrned a’r ehedydd. Dyma un o ddim ond llond dwrn o leoedd lle ceir ystod gyflawn o gynefinoedd twyni o’r traeth i laswelltir twyni cymharol sefydlog.

Byddwn yn helpu’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt i glirio prysgwydd sydd wedi lledaenu i’r twyni (coed bach, llwyni a mieri) yn barod ar gyfer gwaith pellach i helpu i wneud y twyni yn fwy symudol a deinamig.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws i’n galluogi i wneud gwaith awyr agored ymarferol mor ddiogel â phosibl. Os hoffech fwy o wybodaeth am y rhain, cofiwch gysylltu. I gadw pellter cymdeithasol bob amser, cyfyngir ar y nifer o wirfoddolwyr ar gyfer pob diwrnod gwaith.  Archebwch yn gynnar rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091