Clirio Coed Conwydd,
Archebu lle yn hanfodol; lleoedd cyfyngedig
Ymunwch â ni yng Nghrawcwellt a Choed Cwrt, lle gwelir mynyddoedd hardd y Rhinogydd yn y cefndir; fe’u disgrifir yn aml fel man gwyllt olaf Cymru.
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ddyddiau i gynorthwyo Cyfoeth Naturiol Cymru gyda rheolaeth conifferau anfrodorol yn yr ardal hon.
Ar y diwrnod cyntaf canolbwyntir ar reoli conifferau i’w cadw rhag ymledu i’r coridorau glannau afon yng Nghoed Cwrt. Mae’r coridorau hyn yn darparu rôl werthfawr mewn darparu llwybrau cysylltiol i fywyd gwyllt.
Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg coronafeirws i’n galluogi i roi’r orchwyl hwn ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, rydym wedi cyfyngu ar y nifer o wirfoddolwyr ar y diwrnod hwn. Cofiwch archebu’n fuan rhag ofn i chi gael eich siomi.
Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk