Gweithdy Plethdorchau Nadolig
10yb-12yp / 1-3yp, Neuadd Pentref Ganllwyd
Ymunwch â Claire o Gymdeithas Eryri a Lucy Evans o Goedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru i ddysgu sut i greu plethdorch i’ch cartref y Nadolig yma gyda brigau lleol o gelyn, eiddew a phinwydden.
Bydd holl ddeunydd planhigion, offer a lluniaeth (mins peis!) ar gael yn ystod y gweithdy.
Rhaid cofrestru ymlaen llaw
Gyrrwch e-bost i claire@snowdonia-society.org.uk i fwcio lle, gan nodi eich hoff amser (10yb-12yp neu 1-3yp).
Mewn partneriaeth â: