Gweithdy Celf Naturiol i Blant yn Nhŷ Hyll

Gweithdy Celf Naturiol i Blant yn Nhŷ Hyll

2yp-4yp, Tŷ Hyll, Betws-y-coed

Dewch â’ch plant draw am sesiwn brynhawn o gelf a cherflunio naturiol yn y goedlan gyda’r artist amgylcheddol Tim Pugh. Profiad hudolus i’r teulu i gyd.

Rhaid archebu lle:
claire@snowdonia-society.org.uk | 01286 685498


Rhowch yn hael os gwelwch yn dda

Yn hytrach na phenodi pris am y digwyddiad hwn, rydym yn gwahodd cyfraniadau. Cofiwch roi’n hael; bydd eich arian yn mynd tuag at waith Cymdeithas Eryri.