Diwrnod i ddathlu’r Gylfinir

Diwrnod i ddathlu’r Gylfinir

1yp-4yp, Ysbyty Ifan, Conwy

Ymunwch â ni a llu o gyrff sy’n bartneriaid am ddiwrnod i ddathlu un o’n rhywogaethau mwyaf hudolus sydd o dan fygythiad, y gylfinir.

Cynhelir taith gerdded i safle nythu poblogaidd ar gyrion Ysbyty Ifan gyda’r arbenigwr ar y gylfinir, Dr Rachel Taylor o’r BTO, yna cawn weithgareddau, sgyrsiau a chacen yn neuadd bentref Ysbyty Ifan.

Hefyd, cyhoeddir enillydd cystadleuaeth Ysgol Ysbyty Ifan i dynnu llun y gylfinir. Dewch â’ch cyfeillion a’ch ffrindiau draw i ddathlu pob dim sy’n ymwneud â’r gylfinir fel rhagflas o World Curlew Day (Diwrnod Gylfinir y Byd) y Sul canlynol.

Rhaid bwcio lle ar y daith gerdded ymlaen llaw. Cysylltwch â Claire:
claire@snowdonia-society.org.uk | 01286 685498

Mewn partneriaeth â: