Casglu Sbwriel ar yr Wyddfa

Casglu Sbwriel ar yr Wyddfa

Archebu lle yn hanfodol,

Unwaith eto, rydym ni’n barod i daclo sbwriel ar yr Wyddfa. Bydd y casgliad sbwriel hwn yn canolbwyntio ar Lwybr Troed Llanberis, fel rhan o Her y 3 Chopa Go Iawn. “Y brif nod fydd gwella ymwybyddiaeth o’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan elusennau a grwpiau gwirfoddol lleol sy’n cynnal digwyddiadau casglu sbwriel yn rheolaidd, ac yn bwysicach efallai, addysgu’r niferoedd helaeth o ymwelwyr a all ddylanwadu’n gadarnhaol ar y sefyllfa sbwriel, yn enwedig yn ystod misoedd prysur yr haf pan fydd miloedd o bobl sy’n codi arian at elusennau a cherddwyr sydd ar eu gwyliau yn ymweld â’r mynydd.” Yn ystod y diwrnod gwaith hwn, byddwn yn cydweithio â Thîm Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri i wneud arolwg o’r sbwriel ar y Mynydd. Llawn

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498