Casglu Sbwriel

Casglu Sbwriel, Nant Gwynant

Booking essential

Cadwch Eryri yn edrych yn hardd trwy ymuno â ni ar y diwrnod casglu sbwriel hwn!

Mae canolbwynt y gymdeithas a’n gwirfoddolwyr ymroddedig yn aml ar Yr Wyddfa ei hun yn rhannol oherwydd y nifer uchel o ymwelwyr y mae’r mynydd yn eu denu bob blwyddyn. Ond nid yw’r ardaloedd o amgylch Yr Wyddfa yn denig y broblem o sbwriel.

Mae Llwybr Cylchol Yr Wyddfa yn llwybr lefel isel sy’n rhedeg o Lanberis i Ryd Ddu ac yn cysylltu’r 6 prif lwybr sy’n arwain at y copa. Mae’r llwybr cylchol hwn yn caniatáu i bobl fynd i fyny un llwybr ac i lawr un arall ac yn ôl i’r man cychwyn heb y perygl cysylltiedig o’r ffyrdd.

Yn aml, y sbwriel o’r ffyrdd a’r llwybrau poblogaidd hyn sy’n ffeindio ei ffordd i mewn i’r amgylched ehangach trwy gael ei chwythu gan y gwynt neu gludo gan nentydd.

Canolbwynt y diwrnod hwn fydd clirio’r ardal i lawr y dyffryn rhwng Pen y Pas a Nant Gwynant gan ddilyn y nant i lawr gan gymryd y golygfeydd ysblennydd wrth i ni wneud hynny.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
dan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498