Casglu Hadau Coed, Nant Gwynant

Casglu Hadau Coed, Nant Gwynant

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Byddwn yn cerdded drwy rannau o hyd at dair coedlan yn agos at ddyffryn ffrwythlon Nant Gwynant, yng nghysgod Y Wyddfa fawr ei hun. Byddwn yn agos iawn at leoliad chwedl draig goch Cymru.

Gobeithiwn gasglu amrywiaeth o hadau coed collddail brodorol ar gyfer meithrinfa goed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bydd yr hadau yma’n cael eu meithrin a’u tyfu er mwyn rhoi hwb i fyd natur ac annog adferiad coedlannau. Bydd y coed ifanc yn cael eu plannu yn y man ledled Eryri er mwyn cynyddu bioamrywiaeth, lleihau llifogydd ac erydu ac adfer coedlannau. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod y clefyd sy’n lladd coed ynn wedi lledaenu mor gyflym ledled y DU; o ganlyniad bydd llawer o goed yn cael eu colli. Mae’r ffaith fod y coed yma’n lleol yn golygu y byddan nhw’n addasu’n dda i’r hinsawdd lleol.

Mae gennym drefn weithio glir ac asesiadau risg ar gyfer coronafirws i’n galluogi i gyflawni gwaith awyr agored ymarferol mor ddiogel â phosibl. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn bosib bob amser, cyfyngir yn llym ar y nifer o wirfoddolwyr ar gyfer pob diwrnod gwaith. Cofiwch archebu’n fuan i osgoi cael eich siomi.

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091