Casglu Hadau Coed, Maentwrog

Casglu Hadau Coed, Maentwrog

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n rheoli Coed Cae Fali, a saif yn yr un dyffryn â Phlas Tan y Bwlch. Byddwn yn archwilio’r goedlan ac yn casglu hadau coed collddail brodorol ar gyfer meithrinfa goed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bydd yr hadau yma’n cael eu meithrin a’u tyfu er mwyn rhoi hwb i fyd natur ac annog adferiad coedlannau. Bydd y coed ifanc yn cael eu plannu yn y man ledled Eryri er mwyn cynyddu bioamrywiaeth, lleihau llifogydd ac erydu ac adfer coedlannau. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod y clefyd sy’n lladd coed ynn wedi lledaenu mor gyflym ledled y DU; o ganlyniad bydd llawer o goed yn cael eu colli. Mae’r ffaith fod y coed yma’n lleol yn golygu y byddan nhw’n addasu’n dda i’r hinsawdd lleol.

Mae gennym drefn weithio glir ac asesiadau risg ar gyfer coronafirws i’n galluogi i gyflawni gwaith awyr agored ymarferol mor ddiogel â phosibl. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn bosib bob amser, cyfyngir yn llym ar y nifer o wirfoddolwyr ar gyfer pob diwrnod gwaith. Cofiwch archebu’n fuan i osgoi cael eich siomi.

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091