Caru Yr Wyddfa Clean-up

Caru Yr Wyddfa Clean-up

Archebu lle yn hanfodol,

Wedi haf prysur, bydd Yr Wyddfa yn sefyll yn gadarn a mawreddog wrth i ni nesau at yr hydref a’r gaeaf. Bwriad yr ymgyrch yma yw i wneud glanhad llwyr o’r mynydd yw sicrhau bod ei llethrau a’i chymoedd yn aros yn glir o unrhyw sbwriel neu weddillion dyddiol sydd wedi cael eu gadael ar ôl. Mae mynydd uchaf Cymru wedi gweld niferoedd o Wardeniaid Gwirfoddol a chefnogaeth i’r ymgyrch Croeso’n Ôl heb ei debyg o’r blaen yn ystod yr haf. Mae’r ymgais ychwanegol yma i gefnogi’r gwaith anhygoel sydd eisoes wedi cael ei wneud, i helpu i gadw’r Wyddfa’n arbennig i bawb.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd yn lleol i’r Wyddfa, yn brofiadol ac yn teimlo’n gyfforddus i gerdded mewn cynefin fynyddig ac mewn tywydd cyfnewidiol. Byddwch yn helpu gyda’n tasg i dacluso’r Wyddfa wedi’r haf a rhoi rhywbeth yn ôl i amgylchedd mae cymaint o bobl yn ei drysori a’i barchu.

Byddwn yn trefnu gwirfoddolwyr i 2 grŵp, gyda’r uchafswm o 6 gwirfoddolwr ymhob grŵp.
Wrth i chi gofrestru, rhowch wybod i ni pa grŵp fyddai orau gennych:

Clogwyn- Bydd y grŵp yma yn cerdded i fynnu llwybr Llanberis cyn belled â Llyn Du’r Arddu, sydd yn ardal boblogaidd i bicnics/BBQ a gwersylla dros nos.

Glaslyn- Bydd y grŵp yma yn cerdded i fynnu llwybr y Mwynwyr mor bell â Glaslyn. Ffocws y grŵp hwn bydd glanhau sbwriel ar hyd glan y llyn sydd yn ‘hotspot’ sbwriel ar Yr Wyddfa.

Bydd Arweinydd Mynydd profiadol gyda phob grŵp, a bydd yn awyddus i helpu. Pan y byddwch yn cofrestru, byddwn yn rhoi mwy o fanylion a byddwn angen gwybodaeth bellach. Disgwylir i bob grŵp orffen erbyn 4pm.

Gyda’r cyfyngiadau lleol wedi eu rhoi mewn lle yn ddiweddar, rydym yn gofyn i bawb sydd eisiau cefnogi’r digwyddiad i feddwl am eu trefniadau teithio eu hunain a sut y byddent effeithio eu hunain, ac eraill, yn enwedig yn y cyfnod ansicr a heriol yma. Gwiriwch unrhyw gyngor yn lleol a gan y Llywodraeth cyn teithio, yn cynnwys opsiynau parcio cyfrifol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Fel rhan o hyn, gofynnwn yn garedig i bobl sydd yn byw mewn ardaloedd clo i beidio mynychu’r diwrnod.

Rydym yn gweithio mewn grwpiau bychan gyda phrotocolau caeth ar waith er mwyn diogelwch pawb.
Diolch o flaen llaw am eich diddordeb i helpu cadw’r Wyddfa’n lân a phrydferth- edrychwn ymlaen at eich gweld.

Cysylltwch ag Dan i gofrestru:
 dan@snowdonia-society.org.uk